Big Girls Don't Cry

Big Girls Don't Cry

Dydd Sadwrn, 30 Hydref 2021 Main Auditorium Archebwch nawr

Dathlu cerddoriaeth Frankie Valli & The Four Seasons, gan gynnwys The East Coast Boys.

Teithiwch yn ôl mewn amser i gyfnod rhamant. Pan roedd dynion yn ddynion a menywod yn fenywod! Dewch i brofi seiniau eiconig Frankie Valli & The Four Seasons wedi'u hail-greu gan gast arbennig o berfformwyr a band byw ardderchog.

Yn ystod y chwe degau a'r saith degau, roedd y caneuon a gyrhaeddodd rif un yn y siartiau, megis Sherry, December 1963 (Oh What a Night), Walk Like A Man, Rag Doll a Big Girls Don't Cry wedi helpu i wneud The Four Seasons a Frankie Valli yn enwog iawn.

Ar ôl gwerthu 100 miliwn o recordiau ganddynt ar draws y byd, mae gan un o ganeuon The Four Seasons le arbennig yng nghalon pawb. Mae'r sioe fyd enwog hon sydd wedi ennill clod rhyngwladol yn adfywio harmonïau hyfryd band gorau New Jersey.

Mae'n arddangos ffalseti anhygoel Frankie ac mae'n cynnwys ei ganeuon llwyddiannus fel unawdydd megis Grease, Let's Hang On, Working My Way Back To You, Beggin', I've Got You Under My Skin a Who Loves You. 

Sioe deyrnged yw hon ac nid yw'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid gwreiddiol/ystadau/gwmnïau rheoli neu sioeau tebyg.

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:30PM Pris £17.50 - £29.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Sadwrn, 30 Hydref 2021
    Amser 7:30PM Prisiau £17.50 - £29.00 Archebwch nawr