1. Dewch yn aelod
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Cyfleusterau

Rhagor o wybodaeth am archebu, cyfleusterau a mynediad.

Yma yn Theatr y Grand rydym yn ceisio sicrhau bod ein theatr yn hygyrch i bawb. Rydym yn adeilad hanesyddol ac rydym wedi gwneud newidiadau i sicrhau bod eich ymweliad mor bleserus â phosib.

Cadw Lle
Mae Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 12.00pm a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Ffoniwch 01792 475715. Mae'r Swyddfa Docynnau wedi symud i ochr arall yr adeilad gyferbyn â bwyty'r Malthouse wrth i waith ailddatblygu cyffrous barhau yn y cyntedd.
Minicom: 01792 654456

Parcio
Mae nifer o fannau bathodyn glas ar gael yn y maes parcio talu ac arddangos ar Singleton Street gyferbyn â'r theatr. Mae gan brif fynedfa'r theatr fan gollwng mawr.

Mynediad i gadeiriau olwyn
Mae gennym lifft yn y Swyddfa Docynnau sy'n cynnig mynediad i bob llawr, gan gynnwys y Cylch Mawr yn y prif awditoriwm ac Adain y Celfyddydau'r Theatr. Mae mynediad i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn ar gyfer y seddi arferol a bar a bwyty'r Malthouse.

Seddi Hygyrch
Mae gennym nifer o seddi heb freichiau ar gyfer mynediad hwylus yn ogystal â lleoedd i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn a'u cymdeithion yn y seddi arferol a'r Cylch Mawr. Hefyd, mae mannau ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael yn Adain y Celfyddydau.

Toiled hygyrch a chyfleusterau Changing Places
Mae gennym doiled hygyrch ar y llawr gwaelod ger y Malthouse, un yn Adain y Celfyddydau a thoiled Changing Places gyda theclyn codi ger y Swyddfa Docynnau.

Accessible changing room with toilet, sink, bed and hoist

Cŵn Cymorth
Mae croeso i gŵn cymorth ym mhob man yn yr adeilad.

System Glyw
Mae gennym system ddolen glyw isgoch Sennheiser i wella'ch profiad yn y theatr.

Perfformiadau wedi'u dehongli yn Iaith Arwyddion Prydain
Rydym yn trefnu perfformiadau wedi'u dehongli yn Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer ein cynyrchiadau theatr mwyaf poblogaidd. Gall ein Swyddfa Docynnau argymell y seddi gorau ar gyfer gweld y dehongliadau.

Disgrifiad Clywedol
Rydym yn sicrhau bod rhai o'n sioeau gorau'n hygyrch i ymwelwyr â nam ar y golwg drwy ddarparu perfformiadau â disgrifiad clywedol yn rheolaidd ac mae gennym oddeutu 30 o glustffonau ar gael i'w defnyddio.

Perfformiadau Hamddenol
Mae ein perfformiadau hamddenol yn cynnig cyfle i ymwelwyr ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig neu anghenion dysgu neu synhwyraidd fwynhau adloniant theatr o safon mewn amgylchedd cyfeillgar, hamddenol ac anffurfiol. Mae croeso i'r gynulleidfa wneud sŵn neu grwydro o gwmpas ac rydym yn cynnig man tawel i ffwrdd o'r awditoriwm.

Gellir prynu tocynnau ar gyfer perfformiadau hamddenol ar-lein ac rydym yn cynnig polisi ad-dalu heb ofyn unrhyw gwestiynau hyd nes yr eiliad y bydd y sioe yn dechrau. Wrth baratoi ar gyfer eich ymweliad, efallai y byddwch am gysylltu â ni i drefnu taith gyffwrdd, neu lawrlwythwch ein stori weledol Visual Story WELSH (PDF) [3MB].

Ystyriol o Ddementia
Mae gennym aelodau staff wedi'u hyfforddi i helpu cwsmeriaid â dementia ac rydym yn cynnig sioeau tebyg i'r perfformiadau hamddenol.

Hynt 

Hynt logo

Mae hawl gan ddeiliaid cerdyn Hynt i gael tocyn ymlaen llaw am ddim ar gyfer cynorthwy-ydd personol neu ofalwr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Hynt, sy'n un cenedlaethol, drwy ffonio 0344 225 2305 neu fynd i hynt.co.uk.

Adnoddau
Mae ein llyfrynnau ar gael yn ddigidol yma, neu mewn print bras a braille ar gais.

Sylwer y defnyddir goleuadau strôb mewn rhai sioeau. Rydym yn gosod hysbysiadau ym mynedfa'r awditoriwm pan fydd hyn yn digwydd.

Sioeau hygyrch

Sioeau hygyrch

Perfformiadau hamddenol, â disgrifiadau clywedol, wedi'u harwyddo, gydag is-deitlau ac sy'n ystyriol o ddementia.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu