Lipstick On Your Collar

Lipstick On Your Collar

Dydd Iau, 7 Hydref 2021 Main Auditorium Archebwch nawr

Yn syth o'r West End yn Llundain...

Camwch yn ôl mewn amser i gyfnod euraid cerddoriaeth pan oedd y jiwcbocs yn rhuo ac nid oedd eich traed yn cyffwrdd â'r llawr. Gwisgwch eich esgidiau dawnsio, codwch ysgytlaeth ac ymlaciwch - rydych yn mynd i gael eich diddanu gan ganeuon gorau'r 1950au a'r 60au!
O ddechrau roc a rôl i synau'r grwpiau roc o Brydain a oresgynnodd America a'r tu hwnt, mae'r sioe'n llawn mwy na deugain o ganeuon enwog gan gantorion fel Connie Francis, Brenda Lee, Buddy Holly, Chuck Berry, The Beatles, The Ronettes, Cliff Richard, Cilla Black a llawer mwy.
Fe'u perfformir gan fand byw llawn, sy'n cynnwys rhai o brif gerddorion y wlad, ac mae'r sioe anhygoel hon yn cynnwys lleisiau ardderchog, harmonïau tynn ac ymdeimlad arbennig o hwyl.
Bydd yn rhaid i chi ddawnsio yn yr ale felly dewch â'ch esgidiau dawnsio a gadewch i'r hwyl ddechrau!

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:30PM Pris £19.00 - £24.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Iau, 7 Hydref 2021
    Amser 7:30PM Prisiau £19.00 - £24.00 Archebwch nawr