The Greatest Love of All

The Greatest Love of All

Dydd Llun, 8 Tachwedd 2021 Main Auditorium Archebwch nawr

Daw etifeddiaeth gerddorol Whitney Houston yn fyw yn y sioe deyrnged glodwiw hon a ddisgrifiwyd fel sioe sy'n "efelychu Whitney Houston i'r dim."

Cewch eich syfrdanu gan lais anhygoel Belinda Davids - cantores a gyrhaeddodd frig siartiau RiSA yn ei gwlad enedigol, De Affrica - sydd wedi perfformio gyda Keri Hilson, Keyshia Cole a Monica yn ogystal ag ymddangos ar raglen deledu Fox,'Showtime at the Apollo' ac 'Even Better Than the Real Thing' ar BBC1.

Gan berfformio yng nghwmni band byw, cantorion cefndir a dawnswyr dawnus, a chan ddefnyddio sain, goleuadau ac effeithiau theatraidd o'r radd flaenaf, mae'r sioe deyrnged grefftus hon yn deyrnged i un o gantorion mwyaf ei pharch yn y byd.

Bydd y cynhyrchiad dwy awr hwn yn eich llenwi â llawenydd, hiraeth a rhyfeddod wrth i chi fynd ar daith emosiynol drwy holl ganeuon enwocaf Houston, gan gynnwys 'I Will Always Love You', 'I Wanna Dance With Somebody', 'How Will I Know', 'One Moment in Time', 'I Have Nothing', 'Run to You', 'Didn't We Almost Have It All', 'Greatest Love of All', 'I'm Every Woman', 'Queen of the Night', 'Exhale (Shoop Shoop)', 'Million Dollar Bill' a mwy.

Mae 'The Greatest Love of All' eisoes wedi syfrdanu cynulleidfaoedd ledled y DU, Ewrop, y Dwyrain Canol, Asia, De Affrica, Awstralia a Seland Newydd, ac mae'n parhau i dderbyn adolygiadau llawn canmoliaeth yn fyd-eang.

Bydd y digwyddiad arbennig ac unigryw hwn hefyd yn gadael pob cynulleidfa'n awchu am ragor ac yn ei drafod am flynyddoedd i ddod.  Peidiwch â cholli'r cyfle i brofi hyn eich hun.

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:30PM Pris £32.50 & £34.50 Cynigion EXTRAS £4 oddi ar y pris drutaf - dim llawer ar ôl.

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Llun, 8 Tachwedd 2021
    Amser 7:30PM Prisiau £32.50 & £34.50 Archebwch nawr