
Zog And The Flying Doctors
Dydd Gwener, 5 Awst 2022 i Dydd Sadwrn, 6 Awst 2022 Main Auditorium Gweld dyddiadau ac archebuCyflwynir gan Freckle Productions a Rose Theatre, yn seiliedig ar lyfr Julia Donaldson ac Axel Scheffler.
Mae Zog, myfyriwr hynod awyddus sydd hefyd yn ambiwlans awyr, yn dal i lanio gyda chlec, clep a chnoc. Ynghyd â'i griw o Feddygon Hedegog, y Dywysoges Pearl a Syr Gadabout, maen nhw'n trin môr-forwyn â llosg haul, ungorn â chorn yn ormod, a llew â'r ffliw. Ond, mae gan ewythr Pearl, y Brenin, syniadau eraill ynghylch a ddylai tywysogesau fod yn feddygon, a chyn bo hir, caiff ei chloi yn y castell, mewn coron a ffrog ffriliog wirion!
Gydag ychydig o help gan rai ffrindiau a hanner pwys o gaws, a fydd Pearl yn gallu gwneud ei hewythr yn well a phrofi bod tywysogesau'n gallu bod yn feddygon hefyd?
Daw Freckle Productions (Zog, Stick Man, Tiddler & Other Terrific Tales, Tabby McTat) â'r tîm creadigol y tu ôl i Zog, Emma Kilbey a Joe Stilgoe, yn ôl at ei gilydd ar gyfer y fersiwn fodern iawn hon o'r stori dylwyth deg glasurol sy'n seiliedig ar ail lyfr hynod lwyddiannus Julia Donaldson ac Alex Scheffler.
Yn fwyaf addas i blant 3+ oed ond mae croeso i bob oedran.
Zog and the Flying Doctors © 2016 Julia Donaldson ac Axel Scheffler. Cyhoeddwyd gan Alison Green Books, argraffnod o Scholastic Children's Books.
Gwybodaeth bwysig
Amser 10:30AM, 1:30PM, 4:30PM Hyd 60 munud Pris £17.00 Rhaid prynu tocyn plentyn ar gyfer pob plentyn 6 mis oed ac yn hŷn.Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 5 Awst 2022
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 6 Awst 2022
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 6 Awst 2022
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 6 Awst 2022