Bydd Northern Soul Classics Orchestra yn mynd â chi ar daith gerddorol sy'n llawn hiraeth ac eto'n orlawn o egni diamser.
Mae'r adran rythm 5 offeryn yn chwarae curiad sydd mor ddwfn y gallwch ei deimlo yn eich esgyrn, ac mae'r adran bres 7 offeryn nerthol yn seinio gyda grym sy'n gallu codi'ch ysbryd i uchafbwyntiau newydd. Mae ein pedwar lleisydd yn sianelu ysbryd Northern Soul gyda harmonïau sy'n gyrru iasau i lawr eich cefn a phresenoldeb llwyfan sy'n llawn carisma.
Felly, gwisgwch eich dillad gorau a pharatowch i gael eich cludo i fyd lle mae melodïau teimladwy a seiniau hudolus yn ben. Gyda thros 30 o ganeuon Northern Soul clasurol, p'un a ydych yn frwd am Northern Soul neu'n newydd-ddyfodiad i'r byd hwnnw, mae Northern Soul Classics Orchestra yma i lonni'ch calon a'ch enaid ac i'ch ysgogi i ddawnsio.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Pris £29.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 4 Hydref 2024