Omid Djalili - The Good Times Tour

Omid Djalili - The Good Times Tour

Dydd Gwener, 29 Ebrill 2022 Main Auditorium Archebwch nawr

Ar ôl arbrofi gyda pherfformiad ar Zoom, lle'r oedd 639 o bobl wedi'i roi ar y modd distaw, a pherfformiad gyrru a gwylio lle welodd Omid aelod o'r gynulleidfa'n gadael ei gar, yn atodi pibell ddŵr i'w bibell fwg ac yn ei bwydo trwy'r ffenest; mae'r digrifwr a'r actor arobryn, Omid Djalili bellach yn ôl yn ei hoff le, ar lwyfan gyda'i sioe, The Good Times Tour.

Mae perfformiadau deallus, cythruddol, difyr a gwych Omid fel dosbarth meistr gomedi hudolus. Mae ei waith yn amrywio o ffilmiau Hollywood i'r teledu a llwyfan y West End. Mae wedi ennill clod ar draws y byd am ei berfformiadau, ac mae Omid hefyd wedi cynnal sioe cwis ei hun ar ITV sef The Winning Combination. Roedd hefyd wedi ymddangos yn y ffilm boblogaidd Mamma Mia 2: Here We Go Again, His Dark Materials ar gyfer BBC1 a HBO, a Letter For The King ar Netflix. Hefyd, rhoddwyd adolygiadau hael i Omid am ei brif rôl fel Tevvye yng nghynhyrchiad Chichester Festival Theatre o "Fiddler on the Roof".

Gwybodaeth bwysig

Amser 8:00PM Ar gyfer grŵp oedran 16+ Pris £27.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Gwener, 29 Ebrill 2022
    Amser 8:00PM Prisiau £27.00 Archebwch nawr