1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
Swan Lake

Swan Lake

Dydd Mawrth, 12 Tachwedd 2024 Main Auditorium Archebwch nawr

Classical Ballet and Opera House 

Yn cyflwyno 

Swan Lake - bale diamser sy'n cynnwys dawnsio gwefreiddiol  

Gan gynnwys cerddorfa fyw gyda thros 30 o gerddorion 

Ar ôl taith lwyddiannus y llynedd, mae Classical Ballet & Opera House yn dychwelyd i'r DU eleni i'ch swyno â chynhyrchiad hyfryd Swan Lake.  

Mae Swan Lake yn adrodd stori Odette ac Odile, dwy fenyw ifanc sy'n edrych mor debyg i'w gilydd y mae'n hawdd eu cymysgu. 

Mae Swan Lake yn chwedl gymhellol o ramant drasig lle mae tywysoges, Odette, yn cael ei throi'n alarch gan felltith ddieflig. Wrth hela, daw'r Tywysog Siegfried ar draws haid o elyrch. Ar ôl i un o'r elyrch droi'n fenyw ifanc brydferth mae'n cael ei swyno ar unwaith - a fydd ei gariad yn ddigon cryf i dorri'r felltith ddieflig sy'n effeithio arni? 

O ysblander mawreddog neuadd ddawns y palas i'r llyn yng ngolau'r lleuad lle mae'r elyrch hardd yn llithro mewn ffurfiant perffaith, mae'r stori gyfareddol hon o ramant drasig yn cynnig popeth. 

Yn fwy nag unrhyw fale arall, mae Swan Lake yn cyfleu'r holl emosiynau dynol - o obaith i anobaith, o ddychryn i dynerwch, o bruddglwyf i ecstasi.  

Dyma noson hyfryd mas, gydag atgofion i'w trysori am amser maith ar ôl i'r llenni gwympo! 

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:30PM Pris £33.00 - £40.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Mawrth, 12 Tachwedd 2024
    Amser 7:30PM Prisiau £33.00 - £40.00 Archebwch nawr
Poster for The Marriage of Figaro

The Marriage of Figaro

Dydd Iau, 27 Chwefror 2025 Archebwch nawr
Preview image coming soon

Goldilocks and the Three Bears

Dydd Mercher, 16 Ebrill 2025 i Dydd Sul, 20 Ebrill 2025 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu