1. Dewch yn aelod
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Gwybodaeth Am Breifatrwydd

Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu yma.

Pan rydych yn darparu'ch gwybodaeth bersonol i ni er mwyn archebu, rydych yn ei darparu i Swyddfa Docynnau Abertawe, sy'n rhan o Gyngor Abertawe.  Er mai Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu, mae'r Swyddfa Docynnau yn defnyddio sawl cwmni partner i brosesu rhannau amrywiol o'r data ar ei ran.

Pan fydd rhywrai eraill yn ein helpu i drafod ag agwedd ar ein busnes, byddwn yn trosglwyddo peth o'ch data iddynt fel y gallant wneud eu gwaith. Dim ond yr isafswm gwybodaeth sydd ei angen arnynt y byddwn yn ei roi iddynt, a bydd dan ein rheolaeth bob amser. Mae hyn yn golygu y gallant ddefnyddio'ch data i wneud yr hyn rydyn ni'n ei ganiatáu yn unig, ac ni allant ei gadw os nad oes ei angen arnynt fwyach, na'i drosglwyddo i unrhyw un arall.

Mae ein system cadw lle'n cael ei rheoli ar ein rhan gan Spektrix, cwmni dibynadwy sy'n darparu gwasanaeth tocynnau i dros 400 o sefydliadau ar draws y byd.  Ein hwylusydd negeseuon e-bost yw Dotdigital, sy'n enw masnachu ar gyfer Dotdigital EMEA Limited (rhif cwmni 03762341).

Opayo yw ein darparwr ar gyfer taliadau.  Mae'n bwysig nodi bod yr wybodaeth ariannol rydych chi'n ei darparu er mwyn cwblhau'ch archeb (h.y. manylion eich cerdyn talu) yn cael ei phrosesu ar wahân i weddill eich archeb ac mae'r data'n cael ei gadw ar wahân i weddill eich data personol gan Opayo.

Mae Swyddfa Docynnau Abertawe yn rhan o fenter Audience Finder a gynhelir gan The Audience Agency.  Mae data anhysbys o werthiant tocynnau'n cael ei fwydo i system The Audience Agency er mwyn cynnal dadansoddiad ystadegol i gefnogi'n prosesau cynllunio busnes a'n rhwymedigaethau ariannol. Mae Polisi Preifatrwydd The Audience Agency yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi ynghylch pryd a sut maent yn prosesu gwybodaeth bersonol.

Drwy brynu tocynnau ar gyfer un o'n cynyrchiadau, nid oes angen i chi gofrestru i dderbyn unrhyw negeseuon marchnata pellach gennym.  Er hyn, hoffem gadw mewn cysylltiad â chi fel y gallwn roi gwybod i chi am gynyrchiadau'r dyfodol, ein cynigion arbennig a'n newyddion arall.  Os hoffech fod ar ein rhestr bostio, ticiwch y blwch wrth i chi brynu'ch tocyn, cofrestrwch ar-lein neu gallwch e-bostio MarchnataGrand.Abertawe@abertawe.gov.uk

Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel un sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract.  I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Abertawe yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol ar ein gwefan.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu