1. Dewch yn aelod
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.

 

Croeso i'r Malthouse gan Gower Brewery! Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau o'n mannau gwerthu yma yn Theatr y Grand o fariau niferus i'n caffis a'n bwytai.

Mae bwyty The Malthouse ar agor ar gyfer ciniawau cyn sioeau ac mae e' yng nghanol Theatr y Grand. Rydym ar agor o 5pm ar nosweithiau sioeau, ac rydym yn cynnig bwydlen osod dau gwrs o seigiau cartref gyda rhywfaint o ddylanwad Gower Brewery! Mae bwydlen i blant hefyd ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu'ch bwrdd drwy e-bostio Helen yn  helen@gowerbrewery.com

Mae caffi The Malthouse yn dod â'r blasau lleol gorau i chi gyda choffi mâl ffres Gower Coffee, hufen iâ GG's Gelato, popgorn a diodydd wedi'u rhewi, diodydd alcoholig mewn poteli ac amrywiaeth o felysion ar gael tan yr egwyl. Mae ein caffi, ar bwys y Swyddfa Docynnau, ar agor 6 diwrnod yr wythnos o 10.00am - 2.30pm.

Rydym hefyd yn cynnal nifer o fariau ar draws dau lawr yn y Theatr, gan gynnwys The Malthouse ar y llawr gwaelod, Bar y Cylch a Bar 'Crush' ar y llawr cyntaf. Gallwch hefyd brynu detholiad o ddiodydd alcoholig a meddal yn ein bwth melysion a'n caffi.

Os ydych chi'n chwilio am leoliad yng nghanol dinas Abertawe, mae gennym rywbeth ar eich cyfer! Mae'n addas ar gyfer boreau coffi, digwyddiadau preifat, partïon i famau beichiog, partïon pen-blwydd a digwyddiadau cyn/ar ôl y sioe. Rydym yn cynnig amrywiaeth o becynnau digwyddiadau pwrpasol. E-bostiwch helen@gowerbrewery.com am ddyfynbris.

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld ein bwydlenni llawn, ewch i'n gwefan YMA.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau cyffrous am y bar a'r fwydlen @malthouserestaurant@gowerbrewery

 

Malthouse logo pallet wood plants

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu