1. Dewch yn aelod
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Amodau a Thelerau Gwerthu

Drwy brynu tocyn dros y ffôn, dros y cownter neu drwy asiantaeth, rydych yn derbyn yr amodau a'r telerau gwerthu hyn.

Amodau a Thelerau THEATR Y GRAND ABERTAWE A NEUADD BRANGWYN

Tocynnau

Gwerthir pob tocyn ar sail argaeledd a chytundeb ar yr amodau a'r telerau hyn, a dylid darllen y rhain yn fanwl cyn prynu tocynnau, oherwydd bod prynu tocynnau'n golygu eich bod yn derbyn yr amodau a'r telerau hyn.

Gwiriwch eich tocynnau'n ofalus, oherwydd na ellir cywiro gwallau bob tro ar ôl eu prynu, felly cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau'n syth os bydd unrhyw wallau.

Nid yw'r cyngor yn gyfrifol am unrhyw docynnau coll, nac unrhyw docynnau sy'n cael eu dwyn neu eu difrodi.

Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir darparu seddau gwahanol i'r rhai a nodir ar eich tocyn.

Nid yw'r contract wedi'i gwblhau nes bod y tocynnau wedi'u casglu neu'u postio.

Ffi postio

Ffi postio tocynnau £1.20

Gostyngiadau

Mae consesiynau'n berthnasol i bobl dan 16 oed, pobl dros 65 oed, myfyrwyr, ysgolion, grwpiau, aelodau Theatr y Grand/Neuadd Brangwyn, deiliaid cerdyn cynllun Hynt a deiliaid Pasbort i Hamdden Abertawe.

Gellir cael gostyngiad oddi ar bris llawn tocynnau'n unig, gellir cael un gostyngiad yn unig i bob tocyn a bydd angen darparu prawf o gymhwysedd i'r Swyddfa Docynnau.

Cynigir yr holl ostyngiadau yn seiliedig ar argaeledd a gellir eu tynnu'n ôl os bydd y rheolwyr yn penderfynu gwneud hyn heb roi rhybudd ymlaen llaw a gellir eu cyfyngu i berfformiadau a lefelau prisiau penodol.

Ni chynigir ad-daliadau ar gyfer tocynnau wedi'u harchebu ymlaen llaw os bydd cynigion arbennig yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach.

Bydd pob cynnig arbennig yn destun argaeledd a gellir rhoi un gostyngiad yn unig. Mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i dynnu telerau unrhyw gynigion yn ôl neu eu newid heb rybudd.

Ad-daliadau a Chyfnewidiadau

Ni ellir ad-dalu na chyfnewid tocynnau oni bai fod y perfformiad yn cael ei ganslo neu ei aildrefnu neu os ceir argyfwng. Mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i wrthod cyfnewid tocynnau mewn argyfwng.

Os hoffech chi gyfnewid tocynnau am berfformiad arall o'r un digwyddiad, byddwn yn hapus i chi wneud hyn yn amodol ar argaeledd am ffi weinyddol o £2 y tocyn, a bydd angen dychwelyd eich tocynnau gwreiddiol i Swyddfa Docynnau Abertawe o leiaf 24 awr cyn y perfformiad gwreiddiol.

Bydd rhaid hawlio ad-daliad ar gyfer tocynnau a brynwyd oddi wrth asiantiaid trydydd parti yn y man prynu gwreiddiol. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio a yw digwyddiad wedi'i ganslo neu wedi'i aildrefnu, a byddwn yn ceisio rhoi gwybod i chi gan ddefnyddio'r manylion a roddwyd gennych wrth archebu tocynnau, ond ni allwn warantu y byddwch yn cael eich hysbysu o ganslo perfformiad.

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newid cyfeiriad neu fanylion cyswllt pan fyddwch yn archebu tocynnau. Gellir rhoi ad-daliadau i'r person a brynodd y tocynnau'n unig a thrwy'r dull talu gwreiddiol lle bo'n bosib. Gwneir trefniadau personol gan gynnwys teithio, llety neu letygarwch sy'n ymwneud â'r digwyddiad ar eich menter eich hun ac ni cheir ad-daliad amdanynt.
 

Rhestr Aros

Gweithredir system rhestr aros ar gyfer digwyddiadau lle gwerthir pob tocyn. Rhowch eich enw, eich manylion cyswllt a nifer y tocynnau y mae eu hangen arnoch a rhoddir gwybod i chi os bydd tocynnau ar gael, ac ni fydd rhaid prynu'r tocynnau ar yr adeg hon. Nid yw cyflwyno cais am y rhestr aros yn gwarantu y bydd tocynnau ar gael.

Ni allwch ailwerthu na throsglwyddo tocynnau i drydydd partïon.

Rhoi Tocynnau ar Gadw

Gellir rhoi tocynnau ar gadw am 3 diwrnod gwaith am ddigwyddiadau penodol yn unig; gwiriwch pan fyddwch yn archebu tocynnau. Mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i dynnu'r tocynnau a gedwir yn ôl ar ôl 3 diwrnod gwaith heb hysbysu'r cwsmer.

Amodau mynediad

Mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i ddeiliad tocyn neu ofyn i ddeiliad tocyn adael y fangre dan amgylchiadau rhesymol gan gynnwys dibenion iechyd a diogelwch, ymddygiad neu os nad ydych yn gymwys i ddod. Ni chynigir unrhyw ad-daliadau dan yr amgylchiadau hyn.

Mae gan y perchennog gyfrifoldeb am ei eiddo pan fydd yn y fangre.

Mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i gynnal chwiliadau i sicrhau diogelwch ac atafaelu unrhyw eitemau a waherddir neu eitemau yr ystyrir y gallant beri perygl neu darfu ar y digwyddiad neu ar aelodau eraill y gynulleidfa.

Gofynnir i hwyrddyfodiaid aros am seibiant addas yn y perfformiad cyn mynd i'w seddau.

Mae gan bob lleoliad bolisi dim ysmygu yn unol â'r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys sigarennau electronig.

Ni chaniateir offer tynnu lluniau na recordio clywedol neu weledol, a gellir gofyn i unrhyw berson â'r offer hyn adael ac efallai bydd y deunydd a recordiwyd yn cael ei ddinistrio.

Mae deiliaid tocynnau'n rhoi caniatâd i'w dangos fel aelodau'r gynulleidfa mewn unrhyw recordiadau swyddogol, ffotograffau a recordiadau sain, h.y. os darlledir perfformiad ar y teledu yn ddiweddarach.

Bydd lluniaeth ar gael o'n bariau trwyddedig, a sylwer y gellir bwyta ac yfed bwyd a diod a brynir ar y safle'n unig. Atafaelir unrhyw eitemau a waherddir neu ceir gwared arnynt, a rhoddir eitemau bwyd a diod i fanciau bwyd lleol ar hyn o bryd. Defnyddir disgresiwn priodol yn achos y rhai ag anghenion meddygol ac/neu anghenion arbennig, ond gofynnwn eich bod yn rhoi gwybod i'r lleoliad cyn ymweld ag ef er mwyn hwyluso mynediad. Anfonwch e-bost atom gyda'ch manylion archebu yn CadwLleGrand.Abertawe@abertawe.gov.uk

Gellir mynd â lluniaeth i'r awditoriwm mewn cynwysyddion plastig yn unig, yn amodol ar gymeradwyaeth y rheolwyr ac ni fyddant ar gael yn ystod pob digwyddiad.

Os byddwch yn prynu tocyn sy'n cynnig golwg gyfyngedig, rhoddir gwybod i chi am y cyfyngiad pan fyddwch yn archebu'ch tocynnau a nodir ar y tocyn bod golwg gyfyngedig. Os bydd cyfyngiad yn digwydd oherwydd perfformiad/llwyfannu penodol, byddwn yn ceisio rhoi gwybod i gwsmeriaid a threfnu sedd newydd iddynt os yw'n bosib.

Mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i roi sedd newydd i gwsmeriaid oherwydd rhesymau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os yw'n bosib, bydd yn sedd o'r un gwerth neu bydd yn ddrutach.

Effeithiau arbennig - Os ydych yn poeni am unrhyw effeithiau arbennig y gellir eu cynnwys mewn perfformiad, gofynnwch wrth archebu'ch tocyn, er ei bod yn bosib na fydd y theatr yn ymwybodol o'r rhain tan ddyddiad y perfformiad ei hun. Edrychwch ar yr hysbysiad yn y cyntedd wrth i chi gyrraedd.

Mae gan flychau Seddau'r Cylch a Seddau Uchaf yn Theatr y Grand Abertawe drwydded ar gyfer 5 person yn unig. Sylwer mai golwg tuag ochr y llwyfan a ddarperir yn y bocys.

Mewn digwyddiadau lle byddwch yn eistedd, gofynnir i gwsmeriaid aros yn eu seddau trwy gydol y perfformiad i alluogi cwsmeriaid i weld y llwyfan a'r artistiaid sy'n perfformio'n glir. Sylwer os eir yn groes i'r dymuniad hwn gan arwain at gwynion gan gwsmeriaid oherwydd yr effeithir ar eu profiadau o ganlyniad, bydd tîm y lleoliad sydd ar ddyletswydd yn gofyn i chi eistedd neu gellir eich symud i rywle arall yn yr awditoriwm. Ni chynigir unrhyw ad-daliadau neu iawndaliadau dan yr amgylchiadau hyn.

Mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i newid rhaglenni digwyddiadau neu aelodau cast a gyhoeddir oherwydd rhesymau y tu hwnt i'n rheolaeth. Ni chynigir unrhyw ad-daliadau os bydd dirprwy yn perfformio mewn perfformiad theatr yn lle aelod cast a enwir. Hysbysir cwsmeriaid y gellir hysbysebu rhai digwyddiadau yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol cyn i'r lleoliad eu cyhoeddi a bod hyn y tu hwnt i reolaeth y rheolwyr.

Mae Rheolwr ar Ddyletswydd ar gael yn ystod pob digwyddiad ac argymhellwn eich bod yn crybwyll unrhyw faterion neu ymholiadau wrtho ef neu unrhyw aelod o staff yn syth er mwyn sicrhau bod y broblem yn cael ei datrys yn fuan.

Mynediad

Mae systemau is-goch Sennheiser ar gael yn Theatr y Grand Abertawe yn siop y Swyddfa Docynnau. Mae'r rhain ar gael os rydych yn talu blaendal ad-daladwy o £5 ac yn dangos prawf adnabod.

Gosodwyd system dolen glyw sy'n gweithio gyda'r system sain fewnol yn Neuadd Brangwyn.

Os bydd angen cymorth arnoch i ddod i ddigwyddiad a gynhelir gennym, gall eich gofalwr fynd ar y cynllun Hynt. Dangoswch brawf cymhwysedd yn y Swyddfa Docynnau i hawlio hyn.

Croesewir cŵn tywys, ond rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn archebu'ch tocynnau. Y perchennog sy'n gyfrifol am y ci pan fydd yn y fangre.

Rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn archebu'ch tocynnau os bydd angen lle i gadair olwyn arnoch. Bydd lleoedd i gadeiriau olwyn nas gwerthwyd bythefnos cyn y digwyddiad yn cael eu rhyddhau i'w gwerthu'n gyffredinol.

Os bydd angen cymorth arnoch i gael mynediad i'n cyfleusterau neu seddau yn ystod eich ymweliad, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu tocynnau neu dewch o hyd i unrhyw aelod o staff y lleoliad, a fydd yn hapus i'ch cynorthwyo lle bo'n bosib, pan fyddwch yn cyrraedd.

Plant dan 16 oed/Babanod mewn breichiau

Sylwer bod y rhan fwyaf o'r perfformiadau'n anaddas i blant dan 3 oed, heblaw am sioeau i blant. Sicrhewch eu bod yn addas a gwiriwch y cyfyngiadau oedran pan fyddwch yn archebu tocynnau. Rhaid i bob plentyn dan 14 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol a chael ei oruchwylio ar bob adeg ac nid yw staff y lleoliad yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw blentyn dan 18 oed heb gwmni oedolyn.

Gellir cael tocynnau babanod mewn breichiau er mwyn i fabanod dan 12 mis oed gael eistedd ar lin rhiant/gofalwr mewn perfformiadau sy'n benodol ar gyfer plant. Gwiriwch eu hargaeledd pan fyddwch yn archebu tocynnau. Rhaid cael tocyn o'r Swyddfa Docynnau. Mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i ofyn i rieni/warchodwyr adael os bydd y plentyn yn achosi aflonyddwch i gwsmeriaid eraill.

Mae cyfleusterau newid cewynnau ar gael.

NWYDDAU

O bryd i'w gilydd, bydd nwyddau swyddogol y sioe ar gael gan yr hyrwyddwyr. Ni all y theatr dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am werthiant y fath nwyddau.

Gwybodaeth Marchnata/Diogelu Data

Pan fyddwch yn cysylltu â ni am y tro cyntaf yn bersonol, dros y ffôn neu trwy gofrestru ar ein wefan, gofynnir i chi ba ddull cysylltu sy'n well gennych os bydd angen cyfathrebu â chi, h.y. newid eich archeb. Gofynnir i chi hefyd a hoffech dderbyn deunydd marchnata drwy'r post neu drwy e-bost. Os hoffech chi wirio/newid eich dewisiadau cyswllt, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein a newid eich gosodiadau ar unrhyw adeg, neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01792 475715. Fel arall, e-bostiwch ni yn MarchnataGrand.Abertawe@abertawe.gov.uk

Mae gennych hawl i dynnu'n ôl o unrhyw gyfathrebiad marchnata ar unrhyw adeg.

Marchnata drwy e-bost:  Defnyddiwch y botwm datdanysgrifio ar unrhyw e-bost rydym yn ei anfon atoch.

Marchnata drwy'r post: E-bostiwch MarchnataGrand.Abertawe@abertawe.gov.uk neu ysgrifennwch i Swyddfa Docynnau Abertawe, Theatr y Grand Abertawe, Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ neu ffoniwch 01792 475715.

Trydydd partïon

Mae Swyddfa Docynnau Abertawe'n gweithio gyda hyrwyddwyr twristiaeth a bydd yn rhoi gwybodaeth gyffredinol iddynt ar adegau megis gwerthiant tocynnau a gwybodaeth ddemograffig a daearyddol. Fodd bynnag, ni rennir eich manylion personol oni bai eich bod wedi cytuno i hyn wrth werthu'r tocynnau.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu