1. Dewch yn aelod
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

EXTRAS Telerau ac Amodau

Amodau A Thelerau Cynllun Aelodaeth.

Amodau A Thelerau Cynllun Aelodaeth Theatr Y Grand Abertawe A Neuadd Brangwyn

1.   Bydd yr holl fanteision a gynigir yn destun argaeledd a'r amodau hyn

  • Bydd yr aelodaeth hon yn eich galluogi i hawlio'r manteision ond byddwch yn cydnabod y gall Theatr y Grand/Neuadd Brangwyn ychwanegu at y manteision, eu tynnu'n ôl neu eu newid yn ôl eu disgresiwn.
  • Gellir defnyddio'ch aelodaeth i brynu'r nifer o docynnau a nodir ynghyd â'r manteision cymwys a amlinellir: hyd at 1 tocyn gostyngol ar gyfer aelodau Unigol neu dan 25 oed; hyd at 2 docyn gostyngol ar gyfer aelodau Clasurol (lle y bo'n berthnasol) a hyd at 4 tocyn gostyngol ar gyfer aelodau Uwch (lle y bo'n berthnasol) oni bai yr hysbysebwyd yn wahanol. Gellir cyfyngu ar y gostyngiadau i fandiau prisiau penodol gan ddibynnu ar drefniadaeth y digwyddiad.
  • Rhaid i aelodau gysylltu â'r Swyddfa Docynnau neu fynd ar-lein i hawlio'u gostyngiadau ar gyfer tocynnau i ddigwyddiadau.
  • Cynigir manteision ychwanegol gan gwmnïau allanol sydd y tu hwnt i reolaeth Theatr y Grand/Neuadd Brangwyn a gallant newid heb hysbysiad.
  • Bydd pryniant tocynnau'n amodol ar ein hamodau a thelerau gwerthu.
  • Anfonir gwahoddiad at aelodau i ddod i dderbyniadau ar ôl sioeau pan fyddant yn digwydd.

2.   Prynu aelodaeth

  • Gellir prynu aelodaeth ar-lein, dros y ffôn neu dros y cownter.
  • Mae'r theatr/neuadd yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw gais am aelodaeth.
  • Pan fydd eich cais am aelodaeth yn cael ei dderbyn, cewch gerdyn aelodaeth a llythyr croeso o fewn 28 niwrnod; bydd Theatr y Grand/Neuadd Brangwyn yn rhoi gwybod i chi os na allwn gyflwyno cerdyn i chi o fewn 28 niwrnod. Yn yr achos hwn, anfonir y cerdyn aelodaeth a'r llythyr croeso'n hwyrach. Ni chadarnheir aelodaeth oni bai fod Theatr y Grand/Neuadd Brangwyn wedi derbyn y swm llawn.
  •  Yn amodol ar yr amodau hyn, bydd yr aelodaeth yn ddilys am 12 mis o'r dyddiad prynu, a bydd yn dechrau ar y dyddiad y prynoch eich aelodaeth.

3.   Adnewyddu aelodaeth

  • Gall aelodau adnewyddu eu haelodaeth hyd at 21 diwrnod cyn dyddiad terfyn 12 mis cyntaf y cyfnod dilysrwydd. Bydd unrhyw adnewyddiadau'n destun talu swm y ffi adnewyddu ar y pryd.

4.   Defnyddio'ch aelodaeth

  • Mae eich aelodaeth yn drwydded ddiddymadwy bersonol ac mae'n eiddo Theatr y Grand a Neuadd Brangwyn ar bob adeg.
  • Mae Theatr y Grand a Neuadd Brangwyn yn cadw'r hawl i wrthod rhoi aelodaeth i chi a gallant derfynu'ch aelodaeth ac/neu ofyn i chi ddychwelyd eich cerdyn aelodaeth ac/neu ei ganslo ar unrhyw adeg os ydych yn torri'r amodau hyn yn eu barn nhw.
  • Ni ellir trosglwyddo'ch cerdyn aelodaeth i unrhyw drydydd parti. Y deiliad a enwir ar y cerdyn aelodaeth yn unig sydd â'r hawl i ddefnyddio'r cerdyn aelodaeth a hawlio'r manteision.
  • Bydd unrhyw fanteision a thocynnau a geir drwy dorri'r amodau hyn yn cael eu dirymu a gall y theatr neu'r neuadd wrthod derbyn deiliaid y tocynnau yn y lleoliad.
  • Ni roddir ad-daliadau ar gyfer y ffi gychwynnol na'r ffi adnewyddu os bydd aelodaeth yn cael ei therfynu yn unol â'r amodau hyn.
  • Gellir defnyddio'r aelodaeth yn Theatr y Grand a Neuadd Brangwyn yn unig.

5.   Cardiau coll neu sydd wedi'u dwyn

  • Bydd angen i chi roi gwybod i'r Swyddfa Docynnau os byddwch yn colli'ch cerdyn aelodaeth neu os yw'n cael ei ddwyn.

6.   Canslo eich aelodaeth

  • Mae gennych hawl i ganslo'ch aelodaeth o fewn 7 niwrnod o brynu'ch aelodaeth os nad ydych wedi hawlio unrhyw fanteision yn unig. Os byddwch yn canslo'ch aelodaeth o fewn y cyfnod o 7 niwrnod, ad-delir y ffi gychwynnol i chi.
  • Os ydych am ganslo'ch aelodaeth, bydd angen i chi ffonio'n Swyddfa Docynnau ar 01792 475715 o fewn y cyfnod o 7 niwrnod.
  • Gallwn ganslo'ch aelodaeth os byddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth ffug pan fyddwch yn ei phrynu, os byddwch yn camddefnyddio'ch cerdyn mewn unrhyw fodd, neu os bydd unrhyw anghysondeb o ran talu'r ffïoedd ar gyfer eich aelodaeth neu eich tocynnau.
  • Os bydd Theatr y Grand neu Neuadd Brangwyn yn canslo'ch aelodaeth yn unol â'r amodau hyn, ni fyddwch yn gallu hawlio ad-daliad o'ch ffi gychwynnol nac unrhyw ffi adnewyddu.

7.   Diogelu Data

  • Bydd rhaid i chi sicrhau bod yr wybodaeth rydych yn ei darparu pan fyddwch yn prynu'ch aelodaeth yn gywir ac yn gyflawn, a'i bod yn cynnwys eich enw cywir, eich cyfeiriad cyswllt, eich rhif ffôn ac/neu eich cyfeiriad e-bost ac unrhyw fanylion eraill y gofynnir amdanynt.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i Theatr y Grand/Neuadd Brangwyn am unrhyw newid yn eich manylion personol.
  • Bydd Theatr y Grand/Neuadd Brangwyn yn defnyddio'r wybodaeth bersonol hon i roi'r holl wybodaeth sy'n gysylltiedig â'ch aelodaeth i chi, gan gynnwys cynigion ar docynnau, manteision, adnewyddiadau, llyfrynnau a chylchlythyrau, digwyddiadau, cynigion, newidiadau i'r cynllun aelodaeth.
  • Trwy brynu aelodaeth, rydych yn rhoi eich caniatâd i ni ddefnyddio'ch gwybodaeth yn y modd hwn.

8.   Os ystyrir unrhyw ran o'r amodau hyn yn anghyfreithlon, yn ddi-rym neu os na ellir ei gorfodi am unrhyw reswm, yna ystyrir y ddarpariaeth honno'n doradwy o'r amodau hyn ac ni fydd yn effeithio ar ddilysrwydd na gorfodadwyedd y darpariaethau eraill yn yr amodau hyn.

  • Mae'r amodau hyn (fel a ddiwygir o bryd i'w gilydd) yn cynnwys y cytundeb yn ei gyfanrwydd rhyngoch chi a ni o ran yr holl faterion y cyfeirir atynt yma a dealltwriaeth ohonynt ac maent yn disodli unrhyw gytundeb ysgrifenedig neu lafar blaenorol rhyngom sy'n ymwneud â'r materion hyn. Ni fydd unrhyw esboniad na gwybodaeth a roddir ar lafar gan y naill un ohonom yn newid ystyr yr amodau hyn. Drwy gytuno i dderbyn yr amodau hyn, rydych yn cadarnhau nad ydych wedi dibynnu ar unrhyw sylwad nad yw wedi'i gynnwys yn glir yma ac rydych yn cytuno ni fyddwch yn cael unrhyw rwymedi mewn perthynas ag unrhyw gamliwio nad yw'n rhan o unrhyw un o'r amodau hyn. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn yr amodau hyn sy'n awgrymu na fydd atebolrwydd am unrhyw ddatganiad neu weithred dwyllodrus.
  • Bydd yr amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, y bydd gan eu llysoedd awdurdodaeth unigryw mewn unrhyw anghydfod, ac eithrio bod gennym yr hawl, yn ôl ein disgresiwn, i ddechrau achosion cyfreithiol mewn awdurdodaethau eraill a'u dilyn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu