1. Dewch yn aelod
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Steve Balsamo

"Ar ddiwrnod oer ym mis Rhagfyr '83, des i o hyd...

"Ar ddiwrnod oer ym mis Rhagfyr '83, des i o hyd i waled yn y gwter y tu fas i dŷ fy ffrind ar y ffordd i'r ysgol. Roedd e'n wag, heblaw am gerdyn American Express aur ac ychydig o hen luniau. Gwnes i roi'r waled i fy athro dosbarth ac ychydig oriau'n hwyrach, cefais fy ngalw i mewn i swyddfa'r pennaeth - dysgais mai'r actor Melvyn Hayes oedd yn berchen ar y waled, ac ar y pryd roedd e'n ymddangos yn 'Babes In The Wood' yn y Grand. Gwnaeth yr ysgol gysylltu â'r theatr ac roedd Melvyn wrth ei fodd fod rhywun wedi dod o hyd i'r waled. Ychydig ddiwrnodau wedi hynny, cefais i a dau o fy ffrindiau wahoddiad ganddo i wylio'r pantomeim - prynodd e' ddiodydd a losin i ni a rhoddodd e' £5 i fi (roedd hynny'n llawer o arian ym 1893!) i ddiolch i fi am ddod o hyd i'w waled - roedd y lluniau'n bwysig iawn iddo. Dyma'r tro cyntaf erioed i fi fynd i UNRHYW theatr. Cawsom daith y tu ôl i'r llenni ac roeddwn i wedi fy syfrdanu gan yr holl waith sy'n digwydd yn y cefndir, ond pan es i ar y llwyfan ac edrych allan ar yr awditoriwm prydferth, ces i deimlad a oedd yn debyg iawn i sioc drydanol. Efallai taw cipolwg ar y dyfodol oedd."

Ganwyd Steve Balsamo yn Abertawe a chafodd ei fagu dafliad carreg o Theatr y Grand Abertawe yn Sandfields. Bu'n cerdded heibio'r theatr bob dydd ar ei ffordd i'r ysgol. Ar ôl dysgu sut i berfformio mewn bandiau roc lleol, daeth Steve yn enwog yng nghanol y 1990au ar ôl ymddangos fel Iesu yn adfywiad y West End o 'Jesus Christ Superstar', lle enillodd wobr 'Perfformiwr Newydd Gorau' The Variety Club. Yn fuan ar ôl hynny llofnododd Steve gontract â Columbia Records ac aeth ymlaen i gyhoeddi'r albwm unigol 'All I Am' yn ogystal â mynd ar daith gyda'r albwm, cyn ffurfio'r band 'The Storys' gyda thri o gantorion/gyfansoddwyr eraill o Abertawe. Llofnododd The Storys gontract gyda Warner Records, gan recordio 3 albwm a theithio'r byd yn perfformio fel yr act agoriadol ar gyfer Elton John, Celine Dion, Joe Cocker a Santana, gan ennill adolygiadau gwych, cefnogwyr ffyddlon a gwobrwyau cyfansoddi caneuon ar hyd y ffordd. Yn dilyn hyn cawsant bum mlynedd hapus iawn yn gweithio fel canwyr/cyfansoddwyr gyda Jon Lord o Deep Purple, yn ogystal â chyfansoddi caneuon ar gyfer sawl artist fel Meatloaf, Slash o Guns and Roses a Syr Cliff Richard. Ar hyn o bryd mae Steve yn perfformio gyda 'Balsamo Collins Riley' a chaiff eu record EP gyntaf ei rhyddhau yn fuan. "Rwy'n gyffrous iawn i fod yn rhan o Uchelgais Grand. Rwy'n frwdfrydig am drosglwyddo fy ngwybodaeth o'r diwydiant ac rwy'n awyddus iawn i ddatblygu, mentora, hwyluso ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gerddorion, cyfansoddwyr a pherfformwyr yn fy nhref enedigol, Abertawe. Os nad ydym yn gweithredu yn awr, byddwn yn colli'n cyfle."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu