1. Dewch yn aelod
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Michelle McTernan

"Es i a fy rhieni i weld cynhyrchiad o 'Godspell'...

"Es i a fy rhieni i weld cynhyrchiad o 'Godspell' yn Theatr y Grand Abertawe pan roeddwn i'n tua 8 oed. Yn ystod yr egwyl, gwahoddwyd y gynulleidfa i fynd ar y llwyfan a chael gwydraid o win. Yn amlwg, ces i ddim gwydraid o win ond sefais ar y llwyfan. Yn y foment honno, roeddwn i'n gwybod fy mod am fod yn actores. Roedd yn deimlad gwych ac roeddwn i am ei brofi dro ar ôl tro. Flynyddoedd yn ddiweddarach, perfformiais yn y Grand gyda Chymdeithas Operatig Abertawe, Grŵp Amatur Gendros a Chwmni Theatr Chrysalis. 'Flesh and Blood' gan Helen Griffin oedd fy sioe broffesiynol gyntaf yn Theatr y Grand Abertawe. Ar ôl y sioe honno, perfformiais eto yn 'The Oystercatchers', lle cwrddais i â fy ngŵr. Mae'r adeilad hwn yn cynrychioli cynifer o'r rhesymau pam rwy'n gwneud yr hyn rwy'n ei wneud. Mae bron yn teimlo fel fy mod i wedi dod yn ôl i'r dechrau. Mae'n gyffrous iawn."

Actores broffesiynol yw Michelle McTernan, sydd wedi gweithio'n helaeth ym maes theatr, teledu, ffilmiau a radio. Mae hi fwyaf adnabyddus am raglenni fel Stella (Sky 1), The Crown (Netflix) a The Revlon Girl (a enwebwyd ar gyfer gwobr Olivier).

Mae hi hefyd yn ymarferydd drama/celfyddydau, yn ysgrifennydd, yn diwtor ac yn artist cymunedol. Yn 2009, lansiodd ei busnes ei hun, Jamba Drama, sy'n darparu dosbarthiadau/gweithdai difyr a deinamig i bobl ifanc. Nod Jamba Drama yw datblygu sgiliau allweddol ar gyfer plant ifanc a meithrin eu hyder mewn amgylchedd diogel sy'n llawn hwyl. Yn 2012, cyflogwyd Michelle fel cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Rising Stars, sef cwmni theatr i bobl anabl yn Abertawe gyda thros 40 o aelodau ifanc niwroamrywiol/ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ym mis Hydref 2015, daeth Michelle yn diwtor actio ar gyfer Academi HIJINX, Caerfyrddin. Mae Michelle wedi bod yn diwtor arweiniol ar gyfer rhaglen OUTREACH Cwmni Theatr Gorllewin Morgannwg. Mae hi wedi gweithio mewn amrywiaeth o ysgolion ar draws de Cymru fel ymarferydd drama ar gyfer prosiectau Ysgol Greadigol Arweiniol a gynhaliwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. "Rwy'n gyffrous iawn i fod yn rhan o Uchelgais Grand. Gyda'n gilydd, gallwn greu dechrau newydd, dod ag egni newydd a chreu cartref ar gyfer y celfyddydau."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu