1. Dewch yn aelod
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Richard Mylan

"Cyn i'r Grand gael ei thrawsnewid i'r...

"Cyn i'r Grand gael ei thrawsnewid i'r Grand a welwn heddiw, roedd rhes o dai teras yn arfer bod bob ochr iddi. Ar un pen roedd caffi fy Mam-gu. Ei enw oedd Connie's Café, a byddwn yn mynd yno bob penwythnos, yn eistedd wrth y byrddau ac yn edrych i fyny ar y waliau lle'r oedd ffotograffau wedi'u llofnodi o'r holl artistiaid a fu'n perfformio yn y Grand drwy'r blynyddoedd aur. Roeddwn i'n arfer cerdded i'r Swyddfa Docynnau ac edrych i fyny ar y lluniau o bwy oedd yn perfformio'r wythnos honno, a dwi'n credu mai dyma sut dechreuodd fy niddordeb. Pan oeddwn i ychydig yn hŷn, tua chwe blwydd oed, daeth y Cwmni Theatr Northern Ballet i Abertawe gyda 'Midsummer's Night Dream' ac roedd angen bachgen bach arnynt i chwarae rhan Y Tywysog Eifftaidd. Cefais fy newis i chwarae'r rhan... a dyna oedd fy mhrofiad cyntaf erioed ar y llwyfan yn y theatr anhygoel hon... roedd yn brofiad a newidiodd fy mywyd yn llwyr."

Mae Richard Mylan yn actor theatr, ffilm a theledu a aned yn Abertawe, y mae ei waith yn amrywio o ddrama i gomedi mewn rhaglenni teledu fel Waterloo Road a Coupling (BBC), i brif rannau mewn cynyrchiadau theatr yn y West End a dramâu sydd wedi ennill gwobrau Olivier. Ni fyddai hyn i gyd wedi bod yn bosib oni bai am y gefnogaeth hanfodol a gafodd gan Gyngor Abertawe, a alluogodd Richard i hyfforddi yn yr Urdang Academy yn Llundain.

Meddai Richard, "Ar y pryd, roeddwn i'n 12 oed, yn byw ym Mlaen-y-maes, heb incwm, ac yn un o dri o blant i riant sengl. Does dim ffordd y byddwn i wedi gallu fforddio'r tocyn trên, heb sôn am fynd i Lundain a hyfforddi'n llawn amser... gwnaeth Gyngor Abertawe wireddu fy mreuddwydion, yn llythrennol". Ers hynny, mae Richard wedi ei ysgogi i roi yn ôl i'r ddinas a wnaeth y cyfan yn bosib. Yn anffodus, ar ôl marwolaeth ei fam, a fu farw'n sydyn ym mis Medi 2020, sylweddolodd fod bywyd yn llawer rhy fyr ar gyfer meddylfryd 'Un diwrnod', a chymerodd gamau ar unwaith i ddod adref a bod mewn sefyllfa, o'r diwedd, i roi yn ôl. Erbyn mis Mai y flwyddyn ganlynol, symudodd Richard, ei wraig, Tammie, ei fab, Jaco, a'i fab ifanc, Acen, yn ôl adref.

Yn fuan wedyn, cafodd gyfarfod ag Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, ac ar ôl hynny cynullodd Richard grŵp creadigol aruthrol a aeth ymlaen i weithio gyda Tracey McNulty (Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol yn Abertawe) a chyflwyno cynllun creadigol uchelgeisiol ar gyfer y ddinas yng nghartref diwylliannol y ddinas, yr hyfryd Theatr y Grand Abertawe, lle dechreuodd cariad Richard at y theatr. "Mae hyn yn sicr wedi cwblhau'r cylch", meddai Richard,

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu