
Ymunwch â ni am brofiad cerddorol unigryw lle gallwch deithio drwy amser a mwynhau melodïau gitâr swynol a chaneuon amrywiol Carlos Santana.
Mae ein band o gerddorion medrus yn perfformio'r caneuon hyn gyda rhagoriaeth.
Fel y mae cannoedd o adolygiadau annibynnol wedi cadarnhau, mae'n bleser llwyr cael gwylio cerddorion Very Santana yn perfformio.
Mae ein band yn perfformio fersiynau cyngerdd fyw o'r caneuon gyda llawer o fyrfyfyrio ychwanegol. Mae hyn yn sicrhau bod pob perfformiad yn unigryw fel y gall y rheini sy'n ymdrechu i wylio'n cyngherddau bob blwyddyn brofi perfformiad gwahanol bob tro. Mae llawer o'n cefnogwyr yn teithio'n bell i ddilyn ein taith a mwynhau ein sioeau penigamp. Yn gyfnewid am hyn, rydym yn cyflwyno perfformiad Santana unigryw ar gyfer y gynulleidfa a ni'n hunain.
Mae'r profiad byw hwn yn rhychwantu etifeddiaeth gerddorol gyfan Carlos Santana, gan gynnwys ei ganeuon cynnar o'r albwm Abraxas fel Black Magic Woman, Oye Como Va a Samba Pa Ti, i ganeuon y 70au hwyr fel Europa a She's Not There, a chaneuon yr oes fodern sydd wedi ennill sawl gwobr Grammy fel Smooth a Maria-Maria.
Mae Very Santana yn ailgreu'r profiad o wylio'r meistr gitâr a'i fand yn fyw, gyda'r holl elfennau unigryw a wnaeth Carlos Santana yn gerddor ac yn gyfansoddwr enwog.
Mae'r gitarau a'r ampau a ddefnyddir (gitarau PRS, Gibson, Fibenare ac ampau Mesa Boogie Mark I King Snake Carlos Santana Signature a Two-Rock), y drymiau, y bas, yr organ Hammond a'r digonedd o offerynnau taro yn cynnig profiad cerddorol hollol unigryw! Yr hyn sy'n goron ar y cyfan yw llais a symudiadau dawns ein canwr, Amera. Peidiwch â cholli'n sioe! Archebwch eich tocynnau cyn gynted â phosib!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Pris £32.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 10 Ebrill 2026