Noddwr Panto Newydd - Nathaniel Cars
Nathaniel Cars yn noddi pantomeim Theatr y Grand Abertawe.
Mae Nathaniel Cars, delwriaeth MG fwyaf de Cymru a busnes teuluol dibynadwy ers 1980, yn falch o noddi pantomeim Aladdin yn Theatr y Grand Abertawe eleni, gan ddod â hwyl Nadoligaidd, chwerthin ac adloniant teuluol i'r gymuned.
Mae cwmni Nathaniel Cars wedi bod yn gwasanaethu ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Cwmbrân ac Abertawe am dros bedwar degawd, ac mae ganddo enw da am ddarparu cerbydau o safon a gwasanaeth arobryn i bobl yn y cymunedau hyn. Mae cefnogaeth y cwmni i'r pantomeim yn adlewyrchu ei werthoedd craidd mewn perthynas â theulu, cymuned a chynhwysiant.
"Mae teuluoedd, y gymuned ac amrywiaeth wrth wraidd popeth a wnawn," meddai Wayne Griffiths, Rheolwr Gyfarwyddwr Nathaniel Cars. "Mae noddi'r pantomeim yn caniatáu i ni ddathlu'r gwerthoedd hyn, gan gysylltu teuluoedd a chymunedau drwy chwerthin a phrofiadau a rennir."
Meddai'r Cynghorydd Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb,
"Rydym yn falch iawn o noddi pantomeim eleni, mae'n wych partneru â chwmni sy'n rhannu ein hymrwymiad i'r gymuned yn ogystal â chreadigrwydd a hwyl yr ŵyl."
Bydd pantomeim Aladdin gyda Joe Pasquale a Kev Johns yn Theatr y Grand Abertawe rhwng 6 Rhagfyr a 5 Ionawr
