1. Dewch yn aelod
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Mae'n Wych Bod Nol Yn Y Grand | Y diweddaraf am Coronafeirws

Mae'n wych i fod nôl.

Rydym yn gyffrous i ailagor gyda digwyddiadau y gwerthwyd pob tocyn ar eu cyfer o ddydd Sadwrn 29 Ionawr 2022. Mae eich diogelwch o'r pwys mwyaf i ni ac rydym wedi rhoi nifer o fesurau ar waith yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau perfformio i sicrhau ein bod mor ddiogel rhag COVID-19 â phosib.
Caiff y dudalen hon ei diweddaru'n rheolaidd, felly gwiriwch eto cyn i chi ymweld i gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Byddwn hefyd yn anfon e-bost atoch cyn i chi ymweld.

O 18 Chwefror 2022 ni fydd angen pàs COVID mwyach i fynd i mewn i'r theatr.

Cyn I Cih Ymweld

Gwirio am symptomau
Os ydych yn profi unrhyw un o'r symptomau COVID-19 a nodwyd mae'n bwysig iawn nad ydych yn dod i'r perfformiad/ymweld â'r theatr.

Yn ystod eich ymweliad

Gorchuddion wyneb
O 28 Chwefror ni fydd gorchuddion wyneb yn orfodol mwyach, ond gofynnwn yn garedig i gwsmeriaid barhau i'w gwisgo ym mhob ardal gyhoeddus, ac eithrio ardaloedd lletygarwch.

System awyru
Mae'r uned trin aer yn yr awditoriwm wedi'i addasu'n ddiweddar gan olygu bod 85% o awyr iach yn cael ei darparu yn yr awditoriwm yn unol â chanllawiau awyr iach COVID.

System Unffordd
Lle bo'n bosib, rydym wedi newid cynllun arferol y theatr i greu system unffordd i leihau cyswllt cymdeithasol yn ystod eich ymweliad. Dilynwch yr arwyddion llawr.

Cadw pellter cymdeithasol
Does dim gofyniad cyfreithiol o 7 Awst 2021 i gadw pellter cymdeithasol, ond byddem yn eich annog i aros ar wahân i gwsmeriaid y tu allan i'ch grŵp cymaint â phosib.

Tocynnau
Lle bo'n bosib, defnyddiwch e-docynnau a fydd yn lleihau cyswllt cymdeithasol neu dewch â'ch tocynnau 'argraffu gartref' i osgoi ciwiau casglu yn y Swyddfa Docynnau. Defnyddir dyfeisiau sganio tocynnau pan fyddwch yn dod i mewn i'r awditoriwm.

Taliadau Digyffwrdd
Fe'ch cynghorwn i brynu tocynnau ar-lein neu ddefnyddio taliad digyffwrdd yn y theatr i osgoi cyswllt diangen.

Hylif Diheintio dwylo
Mae hylif diheintio dwylo ar gael wrth bob prif fynedfa a'r tu allan i bob un o ddrysau'r awditoriwm ar bob lefel; defnyddiwch e'n aml.

Glanhau
Mae ein tîm blaen tŷ wrth law'n rheolaidd i ddiheintio mannau cyffwrdd a thoiledau cyn, yn ystod ac ar ôl y perfformiad.

Eiddo personol
Gofynnwn yn garedig i chi beidio â dod ag eitemau mawr i'r theatr oherwydd yn anffodus ar yr adeg hon nid oes gennym unrhyw le i'w storio.

Methu dod oherwydd COVID-19
Byddwn yn cynnig cyfnewidiad neu gredyd os ydych chi neu aelod o'ch parti'n methu dod oherwydd: symptomau COVID, canlyniad prawf positif neu ofyniad i hynanynysu. Os yw hyn yn digwydd, e-bostiwch ni yn CadwLleGrand.Abertawe@abertawe.gov.uk cyn amser dechrau'r perfformiad y mae disgwyl i chi fynd iddo a byddwn yn cysylltu â chi i brosesu'ch credyd/cyfnewidiad o fewn yr ychydig ddiwrnodau nesaf. Efallai byddwn yn gofyn am dystiolaeth.

Lifftiau
Dim ond un person/grŵp a ganiateir yn y lifft teithwyr ar unrhyw adeg. Rydym yn annog cwsmeriaid i ddefnyddio'r grisiau os gallant.

Swyddfa Docynnau
Mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o 10.00am tan 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ar ddiwrnodau pan nad oes perfformiadau ac o 12.00pm tan 15 munud ar ôl dechrau'r perfformiad ar ddiwrnodau pan fo perfformiadau. Ar gyfer sioeau dydd/nos Sul, mae'r Swyddfa Docynnau ar agor 1 awr cyn i'r sioe ddechrau.
 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu