Ailadeiladu
Mae'r gwaith adeiladu bron â'i gwblhau.
Mae Cyngor Hil Cymru wedi sicrhau cyllid gan gronfa Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru i ailddylunio Adain y Celfyddydau er mwyn darparu swyddfeydd cymunedol ac ardaloedd rhannu desgiau pwrpasol, canolfan ddigidol ar gyfer cefnogaeth TG a lle addysgu, ystafelloedd ymgynghori ac ystafelloedd cyfarfod. Sicrhawyd cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Ymddiriedolaeth Theatrau hefyd er mwyn adnewyddu ardaloedd y cyntedd, gosod llawr dawnsio newydd yn y stiwdio