Yn dilyn llwyddiant cyngerdd ddiwethaf y grŵp a oedd yn dathlu caneuon pum ffilm eiconig The Beatles, bydd The Bootleg Beatles yn dychwelyd eleni ac yn canolbwyntio ar bum albwm enwog.
Y tro hwn, bydd y pwyslais ar y canlynol: Rubber Soul, y bu dylanwad Dylan yn drwm arno; yr albwm arbrofol Revolver; Sgt Pepper, a wnaeth ragflaenu haf cariad a seicedelia; yr albwm gwyn a'i gymysgedd gogoneddus o arddulliau; ac albwm cerddorol soffistigedig olaf y Beatles, Abbey Road.
Roedd pob albwm yn arloesol ac yn unigryw o amrywiol, a bydd cerddorion dawnus The Bootleg Beatles yn dod â nhw i gyd yn fyw ar y llwyfan mewn cyngerdd arbennig iawn.
Os ydych yn dwlu ar The Beatles, dyma achlysur na ddylech ei golli ar unrhyw gyfrif.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £34.50 - £42.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Iau, 1 Hydref 2026


