
Mae Brian Bilston yn un o'r beirdd mwyaf poblogaidd yn y DU. Mae The Catenary Wires yn grŵp sy'n cynnwys Amelia Fletcher, Rob Pursey ac Ian Button.
Nid yw 'Sounds Made By Humans' yn gyfres o ddarlleniadau â cherddoriaeth yn y cefndir: mae'n gasgliad o ganeuon sy'n cyfuno geiriau a cherddoriaeth i'r dim. Mae penillion a chytganau. Nid oes unrhyw beth byrfyfyr. Mewn llawer o ffyrdd, mae cerddi Brian fel caneuon pop eisoes: yn gryno, yn uniongyrchol ac yn ffraeth; weithiau'n ingol, weithiau'n finiog ac yn wleidyddol; ond bob amser yn gynnil ac yn hygyrch.
Defnyddiodd Rob 13 o gerddi Brian i greu alawon a threfniannau, sy'n cael eu chwarae gan fand llawn, gan gynnwys Ian Button (drymiau) a Fay Hallam (allweddell). Weithiau, caiff geiriau'r cerddi eu canu gan Amelia neu Rob. Weithiau, mae Brian yn eu hadrodd. Weithiau, mae'r ddau beth yn digwydd ar yr un pryd.
Dyma record lle mae barddoniaeth a cherddoriaeth yn bartneriaid cyfartal: synau wedi'u gwneud gan bobl mewn cytgord artistig perffaith.
Gwybodaeth bwysig
Amser 8:00PM Pris £26.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Gwener, 14 Tachwedd 2025