1. Dewch yn aelod
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Christian Patterson

"Dyw fy atgof cyntaf o weld Theatr y Grand...

"Dyw fy atgof cyntaf o weld Theatr y Grand ddim yn ymwneud â mynd i weld sioe gerdd neu ddrama - dyma oedd yr adeilad mawr ger y depo bysus, ac mae'n deg dweud bod gennyf fwy o ddiddordeb yn y bysus na'r theatr. Y tro cyntaf i fi wylio sioe yn Theatr y Grand Abertawe oedd pan wyliais i'r pantomeim. Rwy'n cofio'r diwrnod fel pe bai ddoe. Roeddwn i'n tua 5 oed ar y pryd ac roedd hi'n ddiwrnod gwlyb nodweddiadol yn Abertawe. Roeddwn i'n gafael yn dynn yn llaw fy Mam-gu wrth iddi fynd i'r swyddfa docynnau a gofyn am "2 docyn yn y seddau uchaf ar gyfer y pantomeim". Bryd hynny, roedd yn rhaid i chi adael yr adeilad eto i gyrraedd y grisiau carreg a oedd yn arwain i seddau uchaf y theatr... roedd y gwaith dringo'n anodd a bu'n rhaid i Fam-gu gael sawl seibiant cyn i ni gyrraedd ein seddau o'r diwedd...wel, dwi'n dweud 'seddau' - meinciau pren tenau oedden nhw mewn gwirionedd. Wna i byth anghofio'r pantomeim hwnnw! Roedd e'n llachar ac yn lliwgar ac yn ddoniol dros ben ac i fi, gwnaeth y panto newid fy mywyd yn llythrennol achos doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod bod theatrau'n bodoli, felly doedd dim syniad gen i beth oedd yn digwydd y tu mewn iddynt! Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, dechreuais wersi dawnsio neuadd a Lladin, ac roeddwn i wrth fy modd. Roeddwn i'n gwybod fy mod i am fod yn berfformiwr ac roeddwn i mor gyffrous i fod ar lwyfan Theatr y Grand. Rwyf wedi cael y pleser llwyr o berfformio yn y Grand sawl to - gwnes i hyd yn oed cwrdd â fy ngwraig yno. Dwi'n teimlo fel bod y Grand yn rhan ohono i, yn union fel fy esgyrn."

Ganwyd Christian Patterson yn Abertawe, hyfforddodd fel actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a graddiodd â Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Yn ogystal ag actio ar y teledu ac mewn ffilmiau, mae wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau theatr mwyaf y DU gan gynnwys y Royal Shakespeare Company, Y Theatr Genedlaethol, Theatr Clwyd, The Donmar Warehouse a Theatr Genedlaethol Cymru i enwi ond ychydig. Cafodd ei benodi'n Artist Cyswllt Theatr Clwyd gan Terry Hands yn 2003 ac mae'n Artist Cyswllt o hyd dan arweiniad Tamara Harvey. Yn ogystal â gweithio fel actor, mae Christian hefyd yn ysgrifennwr arobryn. Mae wedi ysgrifennu ar ran Theatr Clwyd, Bristol Hippodrome, The Waterside Theatre yn Aylesbury, The Regent Theatre yn Stoke a Venue Cymru yn Llandudno. Mae wedi cyfarwyddo pantomeimiau hynod lwyddiannus ar gyfer Ambassador Theatre Group, First Family Entertainment, Qods a Crossroads Live ac yn 2019, cyfarwyddodd y perfformiad cyntaf erioed o 'Wave Me Goodbye' Jaqueline Wilson ar gyfer Theatr Clwyd. "Rwy'n falch iawn o fod yn rhan annatod o Brosiect Creadigol Uchelgais Grand ac rwy'n edrych ymlaen at gynhyrchu, creu a churadu theatr o'r radd flaenaf gan bobl Abertawe, am bobl Abertawe ar gyfer pobl Abertawe."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu