Hanes Theatr y Grand Abertawe
Ers 1897, mae Theatr y Grand Abertawe wedi bod yn darparu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau adloniant diwylliannol, artistig a chyffredinol i'r cyhoedd.
Yn ystod blynyddoedd cynnar y theatr (1897 - 1930), sefydlodd y Grand ei hun yn lleoliad ar gyfer y cwmnïau teithiol gorau ac enwau mawr y cyfnod, gydag ymweliadau gan enwogion megis Jessie Mathews, Ivor Novello, Forbes Robertson a marchog cyntaf y theatr, Syr Henry Irving, y mae ei lofnod i'w weld o hyd yn y theatr.
Yna, dechreuodd cyfnod cythryblus yn hanes y Grand, o 1933 tan ddechrau'r 1970au lle cafwyd sawl llwyddiant a sawl methiant gan gynnwys ei thrawsnewid yn sinema am gyfnod o bedair blynedd ar ddeg. Cafodd ei hesgeuluso'n wael, a lleihaodd y cynulleidfaoedd yn bennaf oherwydd poblogrwydd teledu yn y 1960au a'r 1970au.
Daeth yr awdurdod lleol ar y pryd (Corfforaeth/Cyngor Sir Abertawe) i'r adwy gan gymryd prydles hir ym mis Mai 1969 cyn prynu'r adeilad yn llwyr ym 1979. Dinas a Sir Abertawe sy'n dal i berchen ar yr adeilad heddiw, gan ei reoli a'i ariannu.
Yn 2020 mae Cyngor Abertawe yn partneru gyda Chyngor Hil Cymru, elusen sy'n hybu cydraddoldeb hil, y celfyddydau, treftadaeth a gweithgareddau diwylliannol i gymunedau lleiafrifoedd ethnig a du ledled Cymru.
Mae Cyngor Abertawe wedi gwahodd CHC i ymrwymo i gytundeb pum mlynedd i greu 'Canolfan y Grand' yn Adain y Celfyddydau i dros 20 o grwpiau amlddiwylliannol, a fydd yn cyflwyno rhaglen ar y cyd o waith amrywiol proffesiynol, cyfoes, newydd yn lle theatr y stiwdio ac o gwmpas yr adeilad.