
Jamie Hutchinson - Can My Mate Come, He's Sound
Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2026 Arts Wing Archebwch nawrArwr y byd podlediadau. Fersiwn Wetherspoons o Hunter S Thompson (British Comedy Guide)
Yn dilyn Waterslide, ei daith a dorrodd recordiau, mae Jamie Hutchinson yn ôl gyda Can My Mate Come? He's Sound, awr newydd sbon o anhrefn ddi-flewyn-ar-dafod, rhesymeg amheus ac annibendod emosiynol sy'n cael ei dal at ei gilydd gan gyfuniad o flychau cludfwyd ac optimistiaeth ddall.
"Mae Waterslide yn ddosbarth meistr mewn gwneud sbort am eich hun" (British Comedy Guide). Nawr, mae Jamie yn dychwelyd. Yn hŷn? Yn dechnegol. Gyda llai o wallt? Yn bendant. Yn ddoethach? Yn sicr, ddim.
Gyda phwll diwaelod o straeon gwallgof, penderfyniadau anghywir a'r gallu unigryw i wneud i'r absẃrd deimlo'n ddwfn, mae Jamie'n cyflwyno un hanes doniol ar ôl y llall.
P'un a ydych yn dwlu arno neu beidio, pob lwc - rydych chi'n rhan o'i noson mas e' nawr.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Hyd 95 munud Ar gyfer grŵp oedran 18+ Pris £19.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2026