1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
 Jason Donovan Doin' Fine Encore

Jason Donovan Doin' Fine Encore

Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2026 Main Auditorium Archebwch nawr

Yn dilyn llwyddiant rhyfeddol taith Doin' Fine 25 Jason Donovan, a welodd ef yn perfformio i 40,000 o bobl ledled y DU ac Iwerddon, mae Jason yn dychwelyd i'r llwyfan yn 2026 gyda sioe Doin' Fine Encore. Mae Doin' Fine Encore yn ddathliad ysblennydd o'i yrfa ryfeddol ym maes cerddoriaeth, theatr, ffilm a theledu. Bydd y daith gyffrous hon yn mynd a'i gefnogwyr ar daith drwy 35 mlynedd o'i ganeuon poblogaidd ar y llwyfan a'r sgrin drwy arddull perfformio byw egnïol ac unigryw Jason. 

Mae Jason Donovan wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd gyda'i aml ddoniau fel actor, canwr a diddanwr. Mae ganddo gatalog helaeth o ganeuon poblogaidd ac mae Doin' Fine Encore yn ddiweddglo syfrdanol o'i gyflawniadau rhagorol hyd yn hyn. Mae Doin' Fine Encore yn ddilyniant hir-ddisgwyliedig i sioe Doin' Fine 90, y mae ei gefnogwyr yn siarad amdani hyd heddiw! Mae'r sioe hon yn wledd gerddorol o alawon bythgofiadwy sy'n cynnwys detholiad deinamig o ganeuon mwyaf poblogaidd Jason, o sioeau llwyfan fel Joseph, Priscilla a Rocky Horror, i gyfeiriadau at ei waith teledu, fel Neighbours a'i ganeuon pop mwyaf fel 'Especially For You', 'Too Many Broken Hearts', 'Any Dream Will Do' a 'Sealed with a Kiss'.  

Meddai Jason, "Rydw i mor gyffrous ein bod yn ymestyn y daith hon. Roedd rhai lleoedd nad oeddem yn gallu eu cyrraedd am resymau logistaidd wrth fynd ar daith Doin' Fine 25 , felly mae'n wych gallu ymweld â'r lleoliadau hynny. Mae fy ngyrfa berfformio wedi bod yn daith anhygoel ac rwy'n edrych ymlaen at ei dathlu drwy berfformio'r caneuon sydd wedi bod yn rhan mor bwysig o fy mywyd. Mae wedi bod yn daith wych hyd yn hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at rannu'r holl eiliadau arbennig hynny gyda fy nghefnogwyr."  

 


 

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:00PM Pris £51.00 - £79.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2026
    Amser 7:00PM Prisiau £51.00 - £79.00 Archebwch nawr
Poster for Copacabana Magic

Copacabana Magic

Dydd Mercher, 8 Ebrill 2026 Archebwch nawr
Poster for Elkie Brooks

Elkie Brooks

Dydd Sadwrn, 18 Ebrill 2026 Archebwch nawr
Bar a bwyty The Malthouse

Bar a bwyty The Malthouse

Mae The Malthouse yn bartneriaeth gyda Theatr y Grand Abertawe i ddod â chwrwau arobryn gorau Gower Brewery i chi yng nghanol Abertawe.
Gweld rhagor
Cronfa Adnewyddu

Cronfa Adnewyddu

Gallwch helpu i ofalu am ein lleoliad hyfryd a chadw'ch theatr i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu