1. Dewch yn aelod
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Mae gennym wefan newydd sbon!

Ond rydych chi eisoes yn gwybod hyn... rydych chi'n ei defnyddio!

Tra bu COVID-19 yn rhwystro sioeau ac yn ein cadw ni gartref, fe fanteision ni ar yr amser a chomisiynu gwefan newydd sbon! Rydym wedi dyheu am wefan ddynodedig ers amser hir ac o'r diwedd mae gennym un! Bydd yr adran newyddion hon yn cyfuno'n sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi am sioeau a'r tocynnau fydd ar werth, cystadlaethau a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni, gan gynnwys popeth sy'n digwydd yma ym myd Theatr y Grand Abertawe!

Efallai bod y rheini sy'n graff wedi sylwi bod ein logo blaenorol wedi dyddio rhywfaint (ers y 90au) felly yn ystod y cyfyngiadau symud fe achubon ni ar y cyfle i ofyn i bobl hynod dalentog Kneath Associates i'w ail-ddylunio. Wrth i ni edrych i'r dyfodol, mae gan y theatr frand lliwgar a bywiog newydd sbon i'ch croesawu chi nôl.

Swansea Grand Theatre Logo

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu