1. Dewch yn aelod
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Sut i ddod o hyd i ni

Rydym yng nghanol Abertawe!

Ein cyfeiriad yw Singleton Street, Abertawe SA1 3QJ, ac rydym ger Canolfan Siopa'r Cwadrant.

Parcio ceir

Ein meysydd parcio agosaf yw Maes Parcio Aml Lawr y Cwadrant, Wellington Street SA1 3QR a maes parcio talu ac arddangos awyr agored ar Wellington Street y tu allan i'r theatr - mae lleoedd parcio cyfyngedig, gan gynnwys cilfachau parcio i'r anabl. Gellir dod o hyd i ragor o feysydd parcio yn Abertawe yn: www.abertawe.gov.uk/meysyddparcio

Ar y trên

Mae gorsaf drenau Abertawe ar y Stryd Fawr. Oddi yma, ceir gwasanaeth bws rheolaidd i Orsaf Fysus y Cwadrant gerllaw'r Theatr. Fel arall, cerddwch heibio Gwesty'r Grand ac i lawr y Stryd Fawr, ewch yn syth ymlaen tuag at y groesfan (ger y siop garpedi) nes i chi gyrraedd y castell ar eich chwith a Sgwâr y Castell ar eich llaw dde. Croeswch wrth y groesfan i gerddwyr a cherddwch yn syth ymlaen, bydd McDonalds ar eich llaw chwith. Cerddwch i lawr yr ardal i gerddwyr (Oxford Street) nes i chi gyrraedd tafarn Eli Jenkins. Trowch i'r chwith yma, (Plymouth Street) a phan fydd yr orsaf fysus a Wilko o'ch blaen, trowch i'r dde. Bydd mynedfa'r theatr yn syth o'ch blaen.

Ymholiadau National Rail: 03457 48 49 50
www.nationalrail.co.uk
Trainline: www.thetrainline.com

Ar fws neu goets
Mae Gorsaf Fysus Abertawe (y Cwadrant) mewn lleoliad cyfleus iawn y tu ôl i'r theatr. Ewch i wefan Traveline Cymru i weld yr amserlenni ac i drefnu'ch taith: www.traveline.cymru

Ar gefn beic

Mae rheiliau ar gyfer beiciau i'w cael gyferbyn â'r theatr a rownd y gornel o fynedfa'r Orsaf Fysus/Wilko.

Parcio a theithio 

Addas ar gyfer perfformiadau yn y prynhawn yn unig, ar gael o safle parcio a theithio Glandŵr a Ffordd Fabian, dydd Llun i ddydd Sadwrn 7am-7pm. Am wybodaeth, ewch i'r wefan ganlynol: www.abertawe.gov.uk/parcioatheithio

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu