
Gyda'i fand, T. Rex, Marc Bolan oedd un o sêr mwyaf lliwgar a charismatig yr oes roc-glam wreiddiol. Gyda chaneuon unigryw Bolan, cafodd y band lawer o ganeuon hynod lwyddiannus drwy gydol y 1970au, gan gynnwys Love to Boogie, Telegram Sam, Jeepster a 20th Century Boy.
Mae T.Rextasy wedi bod yn perfformio ym mhedwar ban byd ers dros 20 mlynedd a hynny, yn eironig, yn yrfa sy'n hwy na gyrfa T.Rex ei hun. Dyma'r unig fand teyrnged byw swyddogol yn y byd i Marc Bolan a T Rex, a'r unig fand a gymeradwyir gan deulu Marc Bolan, ei ystâd, aelodau gwreiddiol T Rex a rheolwyr catalog Bolan. Disgrifiwyd y band gan lawer fel 'y tu hwnt i ffiniau teyrnged'.
Cyngerdd roc a rôl i bawb o bob oed. Os hoffech wybod sut beth yn union oedd cyngherddau Marc Bolan yn y 1970au, dyma'r sioe i chi!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM Pris £31.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 25 Hydref 2025