1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored
The Sensational 60s Experience

The Sensational 60s Experience

Dydd Gwener, 29 Mai 2026 Main Auditorium Archebwch nawr

The Sensational 60's Experience yw'r sioe deithiol fwyaf sy'n dathlu'r 60au. Bydd ensemble anhygoel o artistiaid ac aelodau gwreiddiol o fandiau'n cyflwyno gŵyl wych a fydd yn peri i chi hel meddyliau am gerddoriaeth hudolus y degawd hwnnw.

P'un a ydych am ddod i ail-fyw trac sain eich ieuenctid neu am weld yr hyn y mae eich rhieni wedi bod yn ei ganmol i'r cymylau, peidiwch â cholli'r sioe hon yn 2026 

GAN GYNNWYS

DOZY, BEAKY, MICK & TICH.  Ym 1964, gwnaeth dyfodiad y grŵp Dave Dee, Dozy, Beaky, Mick & Tich greu cynnwrf ym myd cerddoriaeth. Erbyn 1966, roedd y band ar dân, gan dreulio 50 o 52 o wythnosau yn y siartiau. Roedd caneuon poblogaidd y grŵp, a werthodd fwy o recordiau yn yr Almaen na The Rolling Stones a The Beatles ym 1967, yn cynnwys  Bend It, Zabadak a The Legend Of Xanadu a llawer mwy. Bydd set egnïol DBMT yn eich symbylu i ddawnsio a chanu yn yr eiliau.

THE TREMS (cyn-aelodau o The Tremeloes). Enw gwreiddiol y grŵp pan gafodd ei sefydlu yn Dagenham yn Essex ym 1958 oedd Brian Poole And The Tremeloes. Teithiodd The Tremeloes ledled y byd o 1963 tan 1974. Mae The Trems yn dal i fod yn gymaint o atyniad ag erioed yn Ewrop yn ogystal â'r DU. Gan berfformio caneuon poblogaidd fel Even The Bad Times Are Good, Do You Love Me, Call Me Number One a Silence is Golden, a gyrhaeddodd frig y siartiau ym mhedwar ban byd, dyma un o'r grwpiau byw gorau sy'n teithio heddiw.

THE SWINGING BLUE JEANS. Mae The Swinging Blue Jeans yn dyddio nôl i ddechrau'r 1960au. Dros y blynyddoedd, mae caneuon poblogaidd fel Hippy Hippy Shake, You're No Good, Good Golly Miss Molly a Don't Make Me Over wedi bod yn sylfaen i berfformiadau byw cofiadwy'r band.  Mae Alan Lovell yn arwain The Swinging Blue Jeans, gan barhau i fod yn driw i draddodiad hir y band,  sydd hefyd yn cynnwys Jeff Bannister, Graham Hollingworth a Roger Flavell. 

THE FORTUNES. Daeth y band hwn sy'n hanu o Birmingham i'r amlwg am y tro cyntaf ym 1964 gyda'r gân boblogaidd Caroline, a ddefnyddiwyd fel arwydd-dôn yr orsaf radio answyddogol ddylanwadol o'r un enw. Mae clasuron eraill yn cynnwys Storm In A Teacup, You've Got Your Troubles, Freedom Come Freedom Go. Mae The Fortunes yn parhau i deithio'r byd, gan berfformio yn Awstralia, Seland Newydd ac Unol Daleithiau America, gan gynnwys cyfnod preswyl o wythnos yn Las Vegas.    

VANITY FARE. Dyma fand pop/roc Prydeinig a ffurfiwyd ym 1966 (ac mae'r enw'n aml yn cael ei gamsillafu fel Vanity Fair oherwydd poblogrwydd y nofel a theitl y cylchgrawn) sy'n enwog am ganeuon sy'n cynnwys I Live For The Sun, Early In The Morning a'r gân sy'n boblogaidd ledled y byd, Hitchin a Ride, a gyrhaeddodd frig siartiau Billboard 100 yn UDA.  Roedd harmonïau Vanity Fare yn adnabyddus yn y chwedegau, a dyma un o'r grwpiau lleisiol gorau sy'n teithio hyd heddiw.

SPENCER JAMES. Spencer James fu prif ganwr a gitarydd un o grwpiau enwocaf y 60au, sef "The Searchers", am 39 mlyned tan 2019. Mae Spencer a gweddill y grŵp newydd gwblhau taith olaf 11 sioe ym mis Mehefin cyn gorffen yng ngŵyl fyd-enwog Glastonbury.

Camwch yn ôl mewn amser i gyfnod pan oedd cerddoriaeth boblogaidd yn ei hanterth.

Gwybodaeth bwysig

Amser 7:00PM Pris £34.00

Choose a date

  1. Date of the performance Dydd Gwener, 29 Mai 2026
    Amser 7:00PM Prisiau £34.00 Archebwch nawr
Poster for Showaddywaddy

Showaddywaddy

Dydd Sadwrn, 29 Tachwedd 2025 Archebwch nawr
Poster for WNO - Blaze of Glory!

WNO - Blaze of Glory!

Dydd Iau, 21 Mai 2026 i Dydd Gwener, 22 Mai 2026 Archebwch nawr
The Malthouse

The Malthouse

The Malthouse is a partnership with Swansea Grand Theatre to bring you the best of Gower Brewery's award winning ales in the heart of Swansea.
Gweld rhagor
Restoration fund

Restoration fund

Help take care of our wonderful venue and keep your theatre Grand for future generations to enjoy.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu