Mae The Simon & Garfunkel Story wedi cael llwyddiant byd-eang rhyfeddol, gan werthu pob tocyn ar gyfer perfformiadau mewn mwy na 50 o wledydd. Mae'r sioe wedi cael ei chyflwyno fwy nag 20 o weithiau yn y West End yn Llundain, gan gynnwys sawl ymddangosiad ar lwyfan byd-enwog y Palladium.
Gan ddefnyddio ffotograffau a deunydd ffilm gwreiddiol wedi'u taflunio, mae'r sioe lwyddiannus yn trafod dyfodiad Simon & Garfunkel i enwogrwydd, gyda band byw llawn yn perfformio'r holl ganeuon mwyaf poblogaidd, megis Mrs Robinson, Cecilia, Bridge Over Troubled Water, Homeward Bound a llawer mwy.
Mae cynulleidfaoedd yn codi i'w traed i gymeradwyo pob perfformiad o'r sioe yr oedd Art Garfunkel ei hun yn dwlu arni. Felly, peidiwch â cholli'r cyfle i weld y llwyddiant rhyngwladol hwn.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 135 munud Pris £31.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Iau, 9 Gorffenaf 2026


