
Taith gerddorol llawn hwyl yn ôl i'r chwedegau!
Bydd cast llawn sêr o'r West End yn cyflwyno sioe gerddorol wefreiddiol a fydd yn dechrau gyda ffrwydrad o gerddoriaeth bop o Brydain ym 1962 hyd at oes grym blodau a chariad rhydd y chwedegau hwyr.
Gwahoddir pobl sy'n dwlu ar gerddoriaeth i ddychwelyd i gyfnod lle roedd sgertiau'n fyrrach a gwallt yn hirach wrth i gast anhygoel adfywio caneuon The Beatles, Herman's Hermits, Gerry and the Pacemakers, The Rolling Stones, Cilla Black, Manfred Mann, Dusty Springfield, Lulu, Sandy Shaw a llawer mwy.
Bydd y perfformiadau gwych a'r gwisgoedd hardd a phwrpasol yn ein tywys yn ôl i olygfeydd a synau'r chwedegau. Bydd y wledd o gerddoriaeth ddi-stop gyda 40 o ganeuon yn cynnwys She Loves You, Glad All Over, You're My World, Jumpin' Jack Flash, Something Tells Me I'm Into Something Good, Shout, Ferry Cross The Mersey a llawer mwy.
Mae pobl yn aml yn dweud os ydych yn cofio'r chwedegau, doeddech chi ddim wir yno. Mae Twist and Shout yn rhoi cyfle i ddarganfod beth gwnaethoch chi ei golli!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Pris £30.00Choose a date
-
Date of the performance Dydd Sadwrn, 27 Medi 2025