1. Ymunwch â'n rhestr e-bost
  2. Fy nghyfrif
  3. Basged
  4. English
Dewislen llywio safle agored

Cynllun aelodaeth EXTRAS

Ar stop.

Rydym yn bwriadu gwella'r cynnig aelodaeth "EXTRAS" yn Theatr y Grand Abertawe a Neuadd Brangwyn, felly bydd y cynllun yn ei fformat presennol yn dod i ben wrth i ni adolygu a gwerthuso'r manteision a'r gost.

Os yw'ch aelodaeth yn gyfredol o hyd, byddwch yn parhau i dderbyn y manteision presennol tan eich dyddiad dod i ben. Pan fydd eich aelodaeth yn dod i ben, bydd unrhyw fanteision yn dod i ben hefyd. Os ydych wedi dewis yr opsiwn adnewyddu'n awtomatig, mae hyn bellach wedi'i ganslo ac ni fyddwn yn cymryd arian o'ch cyfrif banc dynodedig.

Unwaith y caiff y gwerthusiad ei gwblhau, byddwn yn lansio'r cynllun aelodaeth "EXTRAS" newydd ac yn rhoi gwybod i'r holl aelodau blaenorol yn y lle cyntaf fel y gallwch gael cyfle i brynu yn gyntaf.

Manteisiwch ar y cyfle hwn i brynu tocynnau ar gyfer perfformiadau cyn i'ch aelodaeth ddod i ben!

Rydym yn gobeithio lansio pecyn gwell a fydd o fudd i chi fel cwsmer y theatr a'r neuadd. Byddwch yn amyneddgar, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch dîm y Swyddfa Docynnau ar 01792 475715.

 

EXTRAS Telerau ac Amodau

EXTRAS Telerau ac Amodau

Amodau A Thelerau Cynllun Aelodaeth.
Gweld rhagor

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu