
Wedi'i chyflwyno gan Phil McIntyre Live.
Mae'r sioe wefreiddiol hon sy'n dathlu cawr cerddorol yn ôl ar gyfer 2025!
Bydd y canwr-gyfansoddwr a'r pianydd clodwiw, Elio Pace, a'i fand anhygoel yn cyffroi cynulleidfaoedd unwaith eto gyda sioe arobryn boblogaidd The Billy Joel Songbook, yn dilyn sioe yn 2024 lle gwerthwyd pob tocyn.
Mae'r sioe fyw gyffrous hon yn talu teyrnged i un o gerddorion a chyfansoddwyr mwyaf eiconig yr 20fed ganrif, a fydd yn cludo'r gynulleidfa yn ôl drwy hanes cerddoriaeth Joel. Bydd Elio a'i fand yn perfformio mwy na 30 o ganeuon poblogaidd, gan gynnwys The Longest Time, She's Always A Woman, An Innocent Man, Uptown Girl, Tell Her About It, The River of Dreams, We Didn't Start The Fire a Piano Man.
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:00PM Hyd 160 munud Pris £25.50 - £31.50Choose a date
-
Date of the performance Dydd Mawrth, 23 Medi 2025