Uchelgais Grand
Uchelgais Grand ar gyfer Abertawe.

Prosiect creadigol newydd, cyffrous yn Theatr y Grand Abertawe yw Uchelgais Grand, sy'n defnyddio safbwynt newydd i gyfleu'r celfyddydau trwy lens Abertawe. Mae'n gydweithrediad rhwng Cyngor Dinas Abertawe ac artistiaid proffesiynol o Abertawe - Richard Mylan, Steve Balsamo, Michelle McTernan a Christian Patterson.
Gwnaethom ofyn i'n hunain: Pam nad yw'r brif theatr yn ein dinas yn lleoliad cynhyrchu o'r radd flaenaf? Mae gan Abertawe gyfoeth o dalentau a threftadaeth ddiwylliannol hynod gyfoethog, felly pam fod cynifer o artistiaid a phobl greadigol yn mynd i ardaloedd eraill i weithio?
Mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn anodd i bawb, yn enwedig ein diwydiant ni. Mae'r pandemig wedi effeithio ar leoliadau a gweithwyr llawrydd yn fawr, felly nawr, yn fwy nag erioed, mae angen annog a chefnogi'r celfyddydau a'u cysylltu â'n dinas enedigol. Mae Abertawe'n newid ac mae ei thirlun diwylliannol yn newid hefyd. Rydym am fod yn rhan o'r newid hwnnw. Mae'n gyfnod cyffrous iawn...mae'n amser i adfywio ac ailddychmygu.
Bydd popeth y mae Uchelgais Grand yn ei gynhyrchu yn cael ei wneud drwy lens Abertawe. Byddwn yn canolbwyntio ar ei chymunedau diwylliannol ac amrywiol ac yn hyrwyddo lleisiau'r bobl nad ydynt yn cael eu clywed, yn ogystal ag annog a chefnogi artistiaid sefydledig a newydd. Rydym am weithio gyda gweithwyr llawrydd a sefydliadau lleol sy'n frwdfrydig am ddathlu hanes ein dinas yn ogystal â datblygu dyfodol cyffrous ac uchelgeisiol.
Richard Mylan - Actor, awdur, tiwtor, cyfarwyddwr
Michelle McTernan - Actor, cyfarwyddwr, awdur, ymarferydd drama
Steve Balsamo - Canwr, cyfansoddwr, cynhyrchydd, artist, tiwtor, actor
a gweithiwr llawrydd
Christian Patterson - Actor, cyfarwyddwr, awdur, canwr, tiwtor
Cefnogwyd gan - Rachel O'Riordan - Cyfarwyddwr Artistig, Theatr Lyric, Hammersmith, Gary Owen - Awdur, Julia Barry - Cyfarwyddwr Gweithredol, Theatr Sherman, Caerdydd.