Mae'n amser camu i'r goleuni. Dihangwch gyda ni ar gyfer noson gwbl wahanol lle byddwn yn mynd â chi i fyd lle mae'r caneuon gorau o'r hoff sioeau theatr gerddorol yn cwrdd â sbloet syrcas syfrdanol.
Byd sy'n llawn lliw wrth i ganeuon ysgubol o hoff sioeau pawb o'r West End a Broadway gael eu cyfuno ag awyrgamwpyr anhygoel, ystumwyr ystwyth a champau gwefreiddiol o ystwythder a dawn.
Gadewch i'r gerddoriaeth fynd â chi ar daith wirioneddol ryfeddol sy'n llawn lliw caleidosgopaidd.Mae sêr y West End yn cyfuno â pherfformwyr syrcas anhygoel wrth i'r caneuon mwyaf poblogaidd o'ch hoff sioeau theatr ddod i'r llwyfan mewn arddull unigryw a gwefreiddiol.
Bydd sêr syrcas trawiadol yn ymuno â chast llawn sêr a fydd yn perfformio caneuon poblogaidd o'ch hoff sioeau - gan greu cynhyrchiad hudolus sy'n hyfryd ac yn syfrdanol.
Dewch i fyd rhyfeddol Cirque.
Dewch yn llu, dewch yn llu ac archebwch eich seddi'n awr ar gyfer noson fythgofiadwy heb ei thebyg.
Mae gan yr hyrwyddwr yr hawl i newid y rhaglen
Gwybodaeth bwysig
Amser 2:00PM, 6:00PM Pris £32.00 - £39.00 Hyd 140 munudChoose a date
-
Date of the performance Dydd Sul, 10 Tachwedd 2024
-
Date of the performance Dydd Sul, 10 Tachwedd 2024